Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mai 2017

Amser: 13.15 - 16.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4097


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Huw Irranca-Davies AC (Cadeirydd)

Dafydd Elis-Thomas AC

Nathan Gill AC

Dai Lloyd AC

David Melding AC

Tystion:

Dr Paul Cairney, Uwch-ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, Prifysgol Stirling

Yr Athro Thomas Glyn Watkin

Rhodri Williams, Ofcom

David Hughes, Bargyfeithiwr

Staff y Pwyllgor:

P Gareth Williams (Clerc)

Tanwen Summers (Ail Glerc)

Ruth Hatton (Dirprwy Glerc)

Alys Thomas (Ymchwilydd)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 445KB) Gweld fel HTML

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

 

Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol yn talu teyrnged i'r diweddar Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, a fu farw yr wythnos diwethaf.

 

</AI2>

<AI3>

2       Ymchwiliad i sicrhau llais cryfach i Gymru: Sesiwn dystiolaeth 10

</AI3>

<AI4>

3       Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3

</AI4>

<AI5>

3.1   SL(5)105 – Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017

</AI5>

<AI6>

3.2   SL(5)106 - Gorchymyn Adeiladau Rhestredig (Gwaith Brys) (Cyfradd Llog ar Dreuliau) (Cymru) 2017

</AI6>

<AI7>

3.3   SL(5)107 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Hawliadau am Ddigollediad) (Cymru) 2017

</AI7>

<AI8>

3.4   SL(5)108 - Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Adolygu Penderfyniadau Cofrestru) (Cymru) 2017

</AI8>

<AI9>

3.5   SL(5)109 - Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

 

Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.

 

</AI9>

<AI10>

4       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

</AI10>

<AI11>

4.1   SL(5)110 - Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Adolygu Penderfyniadau Rhestru) (Cymru) 2017

 

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

</AI11>

<AI12>

5       Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.7

</AI12>

<AI13>

5.1   SL(5)104 - Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes ac Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol yn ymwneud â'r geiriau 'dylai' a 'rhaid' yn y Cod ac yn y Canllawiau Statudol – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru. 

 

 

</AI13>

<AI14>

6       Papur i’w nodi

</AI14>

<AI15>

6.1   Llythyr gan Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Deddfwriaethol Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Senedd Awstralia

 

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 

 

</AI15>

<AI16>

6.2   Ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

 

Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017, a oedd ar gael ar ôl cyhoeddi papurau'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac roedd yn fodlon â'r sylwadau yn ymwneud â materion hawliau dynol o ran y terfyn oed. Fodd bynnag, nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymateb yn mynd i'r afael yn llawn â phryderon y Pwyllgor ynghylch carcharorion cymwys.

Cytunodd y Pwyllgor i osod adroddiad atodol gerbron y Cynulliad ac i ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch carcharorion cymwys.

 

</AI16>

<AI17>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

 

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI17>

<AI18>

8       Ymchwiliad Llais Cryfach i Gymru: trafod y dystiolaeth

 

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI18>

<AI19>

9       Bil y Diddymu Mawr: Trafodaeth

 

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Phapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fil y Diddymu Mawr.

 

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>